Rhif y ddeiseb:  P-06-1239

Teitl y ddeiseb: Canslo Arholiadau TGAU yng Nghymru

Mae ansicrwydd ynghylch a fydd arholiadau’n cael eu canslo. Mae hyn yn ychwanegu straen pellach ar ddysgwyr nad ydynt wedi cael blwyddyn lawn o addysg ers 2019! Drwy gael graddau wedi’u hasesu gan y ganolfan, bydd y disgyblion yn teimlo mwy o sicrwydd. Iechyd meddwl a lles disgyblion ddylai fod yn brif flaenoriaeth wrth wneud y penderfyniad hwn. Llofnodwch y ddeiseb hon nawr i helpu disgyblion blwyddyn 10 ac 11 i wireddu eu potensial yn llawn a chael y graddau y maent yn eu haeddu.

 

 

 

 

 

 

 

 

1.        Arholiadau yn 2020

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Kirsty Williams,  y Gweinidog Addysg ar y pryd, na fyddai cyfres arholiadau TGAU a Safon Uwch haf 2020 yn digwydd. Roedd 'gradd deg' i fod i gael ei dyfarnu i ddysgwyr, 'gan dynnu ar ystod yr wybodaeth sydd ar gael'. Roedd graddau dysgwyr i fod i gael eu dyfarnu ar sail gwybodaeth a gyflwynodd ysgolion a cholegau i CBAC. Y cynllun cychwynnol oedd i'r graddau hynny gael eu 'safoni' gan ddefnyddio modelau safoni CBAC, a gymeradwywyd gan y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru.  Cafodd y dull hwn ei newid ar 12 Awst 2020. Rhoddwyd yr un gradd ag a gawsant yn eu harholiad Safon UG yn awtomatig i’r rhai a oedd i fod i sefyll eu harholiadau Safon Uwch, os oedd yn uwch na'r hyn a gyfrifwyd gan CBAC. Cyhoeddwyd newid pellach ar 17 Awst a dyfarnwyd graddau ar sail y wybodaeth yr oedd ysgolion a cholegau wedi'i chyflwyno.

2.     Arholiadau yn 2021

Ar 10 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Kirsty Williams, na fyddai arholiadau diwedd blwyddyn yn 2021.  Ar 20 Ionawr 2021, cyhoeddodd y byddai cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch dysgwyr yn cael eu dyfarnu drwy fodel Gradd a Benderfynir gan y Ganolfan. Roedd hyn yn golygu y byddai graddau'n cael eu pennu gan ysgolion a cholegau (canolfannau) yn seiliedig ar eu hasesiad o waith dysgwyr. Defnyddiodd y canolfannau amrywiaeth o dystiolaeth, gan gynnwys asesiadau heblaw arholiadau, ffug arholiadau a gwaith dosbarth, i farnu “cyrhaeddiad dangosedig” disgyblion a dyfarnu gradd briodol iddynt.

3.     Arholiadau misTachwedd

Cynhaliwyd arholiadau TGAU mis Tachwedd 2021 yn ôl yr arfer cyn y pandemig. Yn gyffredinol mae arholiadau mis Tachwedd yn cael eu sefyll gan y rhai sy'n ailsefyll arholiadau TGAU er mwyn cael gradd well. Mae hefyd ymgeiswyr 'mynediad cynnar' a all sefyll rhai arholiadau cyn diwedd y flwyddyn ysgol. Caiff yr ymgeiswyr hyn gyfle i sefyll yr arholiad eto yng nghyfres arholiadau'r haf.   Nifer cyfyngedig o bynciau sydd ar gael yng nghyfres mis Tachwedd o gymharu â chyfres yr haf. Ym mis Tachwedd 2021, bu dysgwyr yng Nghymru yn sefyll cymwysterau TGAU diwygiedig mewn Mathemateg, Mathemateg – Rhifedd, Cymraeg Iaith a Saesneg Iaith.

4.     Cyfres arholiadau'r haf 2022

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai arholiadau yn haf 2022. Cadarnhawyd hyn eto ganddynt ar 5 Ionawr 2022 gan ddatgan mai Llywodraeth Cymru fyddai’n gwneud unrhyw benderfyniad i ganslo arholiadau.

Dywedodd Cymwysterau Cymru y byddai’r gofynion asesu ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch CBAC, a’r Dystysgrif Her Sgiliau yn cael eu haddasu i gydnabod effaith yr amser addysgu a dysgu wyneb yn wyneb a gollwyd yn ystod y pandemig; Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi dweud os bydd cyfnodau sylweddol pellach o aflonyddwch sy’n arwain at ganslo cyfresi arholiadau yn y dyfodol, bydd trefniadau wrth gefn yn cael eu rhoi ar waith. Byddai’r rhain yn debyg i’r rhai ar gyfer 2021 ond yn cael eu mireinio o ganlyniad i wersi a ddysgwyd – cyhoeddwyd canllawiau ym mis Tachwedd 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud droeon mai ei bwriad yw i arholiadau fynd yn eu blaenau eleni.  Yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog (16 Rhagfyr 2021), esboniodd y Prif Weinidog y rhesymau pam yr oedd Llywodraeth Cymru eisiau i arholiadau fynd yn eu blaenau:

§    Cydraddoldeb â gweddill y DU – i’r rhai sy’n gwneud cais am le mewn prifysgol y tu allan i Gymru, dylai fod gan y cymhwyster statws cyfartal â dysgwyr mewn awdurdodaethau eraill sydd hefyd yn bwriadu cynnal arholiadau yr haf hwn.

§    Tegwch – trwy ddefnyddio’r system a oedd ar waith ar gyfer haf 2021, disgynnodd perfformiad dynion ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol. 

Dywedodd y Prif Weinidog 

‘truthfully, that is at least partly a reflection of the assessment method.  Young people from those bakgrounds do better in exams; they often exceed the expectations of their teachers, and exams give them the opportunity to do that, and, for reasons of equity, we want to go back to an element of exams, because we think it will help young people from those backgrounds to show what they can do’. 

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru eu Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn Haf 2021ym mis Hydref 2021.

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru eu hymagwedd at raddio, y byddai 2022 yn flwyddyn bontio i adlewyrchu ein bod mewn cyfnod adfer yn sgil pandemig a bod tarfu wedi bod ar addysg dysgwyr. Yn 2022, byddant yn anelu, felly at i ganlyniadau adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng 2021 a 2019. Yn 2023 byddant yn anelu at ddychwelyd at ganlyniadau sy'n unol â'r rhai mewn blynyddoedd cyn pandemig;

5.    Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar 15 Rhagfyr cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gyllid o £24m i gefnogi dysgwyr yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig.  O hyn, mae £7.5m i ddarparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr sydd mewn blwyddyn lle maent yn sefyll arholiadau, gydag amser addysgu ac adnoddau dysgu ychwanegol – i helpu dysgwyr ddatblygu’u sgiliau, eu gwybodaeth a’u hyder, yn ogystal â rhoi cefnogaeth i’r rheini sy’n bryderus am yr arholiadau. Bydd yr ysgolion hynny sydd â’r niferoedd mwyaf o ddysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim yn cael eu blaenoriaethu. Bydd dros £7m yn mynd i gefnogi dysgwyr y mae eu lefelau presenoldeb wedi gostwng yn ystod y pandemig. Bydd cymorth pwrpasol yn cael ei ddarparu i helpu disgyblion blwyddyn 11 sydd â phresenoldeb isel i gwblhau eu TGAU neu i gyrraedd y cam nesaf yn eu haddysg neu i ddechrau gyrfa, ac i gefnogi dysgwyr mewn blynyddoedd eraill. Bydd cyllid hefyd yn cael ei roi i gefnogi llesiant ac addysg i ddysgwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Mewn Datganiad Cabinet ar 25 Ionawr 2022, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Rydw i am ailadrodd wrth ddysgwyr, ysgolion a cholegau y bydd arholiadau ac asesiadau eleni yn mynd yn eu blaen, oni bai bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ei gwneud yn amhosibl iddynt gael eu cynnal – rhywbeth nad ydym yn ei ragweld. Mae’r bwriad i addasu ffiniau graddau i adlewyrchu’r tarfu eisoes wedi’i nodi.   Mae addasiadau i gynnwys arholiadau wedi’u rhoi ar waith yn ogystal â rhoi gwybod ymlaen llaw am feysydd arholiad, fel bod asesiadau mor deg â phosibl, ac a fydd yn galluogi athrawon i ganolbwyntio eu hamser ar y meysydd dysgu allweddol […] Rwy’n annog pob dysgwr ym mlynyddoedd arholiadau i siarad â’u hysgolion a’u colegau am ba gymorth a hyblygrwydd ychwanegol a allai fod ar gael eleni, i’w helpu i symud yn eu blaen yn hyderus.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.